Lleoliad:
Video conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Mawrth, 12 Rhagfyr 2023
Amser:
09.01 -
09.21
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AS, Llywydd (Cadeirydd) Lesley Griffiths AS Heledd Fychan AS Russell George AS |
Staff y Pwyllgor: |
Lisa Griffiths (Clerc) Yan Thomas (Dirprwy Glerc) |
Eraill yn bresennol |
Jane Dodds AS David Rees AS, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Julian Luke, Pennaeth Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Llinos Madeley, Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Darren Millar. Roedd Russell George yn bresennol yn ei le.
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newidiadau a ganlyn:
· Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.
· Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 5.25pm.
Dydd Mercher
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyflwyno cynnig bod y Senedd yn ethol Samuel Kurtz yn aelod o'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn lle James Evans. Tynnodd y Llywydd sylw at hyn a’r newidiadau a ganlyn i gyfarfod dydd Mercher:
·
Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
(30 15 munud)
· Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (5 munud)
Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes nad oes unrhyw newidiadau i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Cytunwyd ar yr ychwanegiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:
Dydd Mercher 24 Ionawr 2024 -
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:
Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur yn ymwneud ag adolygiad cyfyngedig o Reol Sefydlog 26C (Deddfau Cydgrynhoi'r Senedd), yn dilyn gohebiaeth a ddaeth i law gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar 3 Hydref a gododd rai materion yn deillio o'i ystyriaeth o Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru). Nododd y Pwyllgor fod ei Raglen Waith Weithdrefnol yn cynnwys adolygiad llawn o Reol Sefydlog 26C sydd wedi’i drefnu ar ôl i'r Bil Cydgrynhoi nesaf gael ei ystyried gan y Senedd.
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y canlynol:
- manteision ac anfanteision diwygio'r Rheolau Sefydlog sy'n amlinellu sut mae Bil Cydgrynhoi yn mynd rhagddo o Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor i Ystyriaeth Fanwl y Senedd / Cyfnod Terfynol ; ac
- ymestyn yr amser rhwng adroddiad y pwyllgor cyfrifol ac Ystyriaeth Fanwl y Senedd yn gallu dechrau/bod ystyried cynnig Cyfnod Terfynol yn bosibl, er mwyn caniatau rhagor o amser i'r Aelodau ystyried adroddiad ac argymhelliad y pwyllgor cyfrifol a gweithredu arnynt.
Nododd y Pwyllgor Busnes, pe pai sefyllfa’n codi yn y cyfamser lle nad yw pwyllgor yn gallu dod i gytundeb ar ganlyniad ei Ystyriaeth Fanwl y Pwyllgor, a bod pleidlais gyfartal yn digwydd, bydd cadeirydd y pwyllgor cyfrifol yn cael cyngor gweithdrefnol gan y clerc yn unol â'r cynseiliau a'r egwyddorion sylfaenol a gymhwysir o ran defnyddio pleidlais fwrw.
Gwrandawiadau Ymchwiliad Covid y DU
Rhoddodd y Trefnydd wybod i Reolwyr Busnes y gallai gwrandawiadau Ymchwiliad Covid y DU yng Nghymru, a gynhelir rhwng 27 Chwefror a 14 Mawrth 2024, effeithio ar amserlenni rhai Gweinidogion yn ystod tymor y gwanwyn.